Croesawn y cyfle hwn i gynnig
ein sylwadau ar y Bil drafft. Mae’r sylwadau isod yn
canolbwyntio ar anghenion y Gymraeg mewn perthynas â’r
maes allweddol hwn.
Byddwn yn galw am fwy o bwyslais
a sylw diamwys i anghenion y Gymraeg:
·
Cynnwys cymal ar
wyneb y Bil ac o fewn yr adran Egwyddorion yn sicrhau hawl plentyn
/ person ifanc i gael cefnogaeth yn y Gymraeg
·
Cynnwys cymal yn y
Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a
cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn y
Gymraeg pan fo galw am hynny
·
Dylid
cyfeirio’n benodol at anghenion parthed y Gymraeg yn y Cod
Ymarfer. Nid yw’n ddigonol na derbyniol cyfeirio at
anghenion cyfathrebu a hygyrchedd yn y cyd-destun hwn. Byddwn
yn galw am sylw penodol i’r meysydd canlynol:
·
hawl y
plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i gael trafod y CDU yn y Gymraeg, ar
unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac ati)
·
hawl i
ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25 oed) a sicrhau
dilyniant ieithyddol
·
hawl i wneud
a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy brosesau lleol a gerbron y
Tribiwnlys)
·
darpariaethau
ynghylch y Gymraeg mewn perthynas â chydweithio
aml-asiantaeth
·
darpariaethau
ar gyfer cynllunio'r gweithlu i sicrhau cyflenwad digonol o
arbenigwyr sy'n siarad Cymraeg
·
eiriolaeth
annibynnol yn y Gymraeg
|